EleriHUGHES3ydd o Fedi, 2025 Yn 69 mlwydd oed bu farw yn dawel yn Ysbyty Gwynedd wedi ei hamgylchynnu gan deulu a ffrindiau wedi cyfnod o salwch byr. Yn wreiddiol o Penrallt, Abersoch, ac yna priodi a magu teulu yn Graianog, Llanllyfni cyn symud i Beudy Bach, Pontllyfni. Gwraig annwyl a ffyddlon Arwel, mam gwirioneddol arbennig i Guto Rhys, Ceri Wyn a Sian Elin a'i partneriaid Lona a Dylan; 'Nain Cae' balch Deio, Beca, Owain, Alaw, Morgan, Osian ac Efa. Chwaer driw i Idris a chwaer yng nghyfraith Marian, Anwen, Dic ac Eleri; modryb hoffus a ffrind ffyddlon i lawer iawn. Bydd colled Eleri yn enfawr i'w theulu a ffrindiau oll. Angladd hollol breifat yn ôl ei dymuniad. Dymuna'r teulu ddiolch am y gofal a gafodd Eleri yn Ysbyty Gwynedd, ac am y gefnogaeth gan bawb yn ystod y cyfnod anodd hwn. Derbynnir rhoddion, os dymunir, yn ddiolchgar er cof am Eleri tuag at Ward Aran, Ysbyty Gwynedd trwy law'r teulu neu'r Ymgymerwr.
Ifan Hughes, Trefnwr Angladdau, Ceiri Garage, Llanaelhaearn. Ffôn: 01758750238
Keep me informed of updates